Gwylio'r Gymuned
Beth yw Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned?
Gall Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned fod yn unrhyw un o gwbl sy’n byw yn eich cymuned lleol chi – gallwn fod wedi ymddeol, yn athro, yn beiriannydd neu yn gweithio mewn siop. Maent yn bobl sy’n gwirfoddoli amser i achub bywydau yn y gymuned.
Beth mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn gwneud?
Mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru drwy cyrraedd argyfyngau sy’n bygwth bywyd cyn fod ambiwlans yn gallu cyrraedd. Mae’r cynllun yn gweithio mewn trefi a pentrefi ar draws Cymru ac yn fudd mawr. Mae’n gweithio oherwydd fod yr Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn gwasanaethu eu cymuned lleol yn unig, dyma sut mae modd iddynt gyrraedd lleoliad yr argyfwng cyn ambiwlans.
Sut maent yn helpu cleifion?
Mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf llawn yn cynnwys cynorthwyo cynnal bywyd sylfaenol, therapi ocsigen a sut i ddefnyddio deffibrilwr. Teclyn a ddefnyddir i helpu cleifion sy’n cael trawiad ar y galon yw deffibrilwr. Mae ymchwil yn profi fod siawns cleifion o fyw yn codi pan fod sgiliau achub bywyd yn cael ei ddefnyddio cyn gynted a sy’n bosib, mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn chwarae rôl hanfodol oherwydd hwy sy’n aml yn cyrraedd cleifion yn gyntaf.
Ydynt yn nyrsys neu yn barafeddygon?
Nac ydynt. Nid yw Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned i fod i ailosod rôl parafeddygon ond i gynorthwyo’r Gwasanaeth Ambiwlans drwy ddefnyddio sgiliau achub bywyd. Mae’r sgiliau yma yn hanfodol i gadw cleifion yn sefydlog nes fod parafeddygon yn cyrraedd.
Pryd maent yn gweithio?
Mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn gweithio ynystod y dydd â’r nos ac yn cymryd tro i fod ‘ar alwad’. Maent yn ymateb i galwadau o eu gymuned lleol yn unig.
Sut byddant yn cyrraedd?
Mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn teithio o gwmpas yn eu ceir, nid oes hawl ganddynt i dorri’r gyfraith (fel gyrru yn rhy gyflym na teithio drwy goleuadau coch). Mae yna glip gall Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned arddangos yn y car sy’n dangos mae Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned ydynt. Fel bod gwasanaethau brys arall yn ymwybodol ohonynt.
Sut byddaf yn adnabod Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned?
Rhoddir siaced gweladwy uchel (high visibility) i Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned i wisgo ac fydd ganddynt bathodyn adnabod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Os yfych yn ansicr am unrhyw un, gofynnwch i weld y bathodyn.
Hoffech chi fod yn Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned?
Os oes gennych amser i sbario ac hoffech wneud rhywbeth i helpu eich cymuned, cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Lawr Gwylio’r Gymuned