'Cookies' ar y wefan hon

Rydym yn defnyddio ‘cookies’ ar ein gwefan. Os byddwch yn parhau heb newid eich gosodiadau, byddwn yn tybio eich bod yn hapus i dderbyn yr holl ‘cookies’ ar wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Fodd bynnag, os hoffech, gallwch newid eich gosodiadau ‘cookie’ ar unrhyw adeg.
Welsh Ambulance Services NHS Trust

Newyddion
Diweddaraf

 

Cymryd rhan

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) yn gwerthfawrogi barn cleifion a’r cyhoedd a byddai’n hoffi gweld pobl yn cymryd rhan ym mhob agwedd o’r gwasanaeth. Gall hyn gynnwys gwneud penderfyniadau am eu gofal a’u triniaeth eu hunain, rhoi adborth am y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn a hyd yn oed datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Gall pobl roi ymateb ac awgrymiadau am y gwasanaeth neu hyd yn oed gyfranogi’n fwy drwy gymryd rhan mewn arolygon, adolygu taflenni drwy ein Panel Darllenwyr, mynychu digwyddiadau lleol a rhannu profiadau drwy adrodd eu stori fel claf.

Gallwch ymweld â thudalen ein Partneriaid mewn Gofal Iechyd i ddysgu mwy am waith y tîm Partneriaid mewn Gofal Iechyd sy’n cynnwys gwahanol bobl a chymunedau o fewn yr Ymddiriedolaeth. I gyfranogi mwy yn ein gwaith, gallwch ymuno â’r Rhwydwaith Partneriaid mewn Gofal Iechyd a gallwch helpu i ddylanwadu ar wasanaethau a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

Neu, os byddwch chi’n dymuno mynegi barn neu gynnig awgrym am un o’n gwasanaethau, gan gynnwys y gwasanaeth ambiwlans brys, gwasanaethau cludo cleifion neu Galw Iechyd Cymru, yna ‘Mynnwch ddweud eich dweud’.

Rydym yn cynhyrchu cylchlythyr a'r enw Rhwydwaith Newyddion dwywaith y flwyddyn sydd yn hysbysu'r gwaith yr ydym wedi gwneud dros y misoedd diwethaf. Ymwelwch ar adran Llyfrgell Partneriaid Mewn Gofal Iechyd er mwyn gweld ein cylchlythyr. Hefyd, mae yna fersiwn clywedol ar gael, o'r rhifyn diweddaraf, sef rhifyn Gaeaf 2011.

Mae yna adran Anableddau Dysgu ble byddwch yn darganfod llawer o wybodaeth a gemau.

I ddysgu mwy am sut mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru’n addysgu ac yn hysbysu’r cyhoedd ar sut i ddefnyddio 999 a negeseuon iechyd eraill y mae’n eu cefnogi, gallwch ymweld ag ymgyrchoedd.