Polisi Preifatrwydd
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ymroddedig i sicrhau diogelwch a phreifatrwydd pob unigolyn sy’n defnyddio’r wefan hon.
Mae’r datganiad sy’n dilyn yn amlinellu arferion preifatrwydd
www.ambulance.wales.nhs.uk Mae’n berthnasol i’r wefan hon yn unig.
Casglu a defnyddio gwybodaeth
Nid yw gwefan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cadw nac yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y wefan.
Bydd y wybodaeth sy'n cael ei gasglu wrth y ffurflen adborth ar-lein yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol. Mae pob cais am wybodaeth yn cael ei gofnodi er mwyn i ni werthuso a gwella ein gwasanaeth.
Cwcis
Darn o ddata yw ‘Cwci’ sy’n cael ei gadw ar yriant caled cyfrifiadur y defnyddiwr pan fydd yn ymweld â gwefan. Mae’n cynnwys gwybodaeth syml am hunaniaeth y defnyddiwr ond nid yw'n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol. Mae’r cwci yn cael ei ddinistrio pan fydd defnyddwyr yn cau eu porwr.
Ffeiliau cofnodi
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cadw cofnod o’r tudalennau y mae defnyddwyr yn ymweld â hwy ar y wefan er mwyn dadansoddi tueddiadau, gweinyddu’r wefan a dilyn symudiadau defnyddwyr er mwyn gwella ein gwefane. Nid yw ein cofnodion yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol am ddefnyddwyr.
Cysylltiadau
Mae’r wefan yn cynnwys cysylltiadau i wefannau eraill. Nid yw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gyfrifol am bolisiau preifatrwydd y gwefannau eraill. Rydym yn annog defnyddwyr i fod yn ymwybodol o hynny pan fyddant yn gadael ein gwefan ac i ddarllen polisiau preifatrwydd y gwefannau eraill.